P-05-1069 Arbed y tir fferm a'r caeau gwyrdd yn Cosmeston
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Michael Philip Garland, ar ôl casglu cyfanswm o 5,272 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Weinidogion Cymru i lynu wrth eu polisïau amgylcheddol a newid hinsawdd ac at egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac annog Llywodraeth Cymru i dynnu’n ôl eu cynlluniau ar gyfer datblygiad o 576 o unedau tai ar y caeau a thir fferm arfordirol hardd yn Fferm Cosmeston Isaf, Cosmeston.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r caeau gwyrdd hyn yn gorwedd mewn ardal o arfordir a thirwedd ffermio rhwng Môr Hafren, Llwybr Arfordir Cymru a Pharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston (SDdGA), a bydd unrhyw ddatblygiad ar y caeau hyn yn effeithio'n fawr ar ecoleg a bioamrywiaeth bywyd gwyllt lleol yma ac yn yr ardaloedd cyfagos, ynghyd â cholli amwynder cefn gwlad a threftadaeth hanesyddol ddiwylliannol leol yr ardal.
Bydd datblygiad mor fawr yn anghynaliadwy oherwydd y diffyg seilwaith priffyrdd ac iechyd lleol, a bydd yn gwaethygu tagfeydd traffig a llifogydd mewn ardaloedd cyfagos.
Dylid cadw'r tir ar gyfer ffermio a busnesau cysylltiedig a fydd, ynghyd â phrosiectau amwynder cymunedol lleol, yn cadw rhagolygon y dirwedd ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· De Caerdydd a Phenarth
· Canol De Cymru